Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Chwefror 2021
Amser:
09.00 -
11.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11065
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Tystion: |
Y Gw. Anrh Robert Buckland MP, Llywodraeth y DU Amy Rees, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Nicholas Paines, Comisiwn y Gyfraith Henni Ouahes, Comisiwn y Gyfraith Sarah Smith, Comisiwn y Gyfraith |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi’u gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag Eitem 2.
2 Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru.
3 Cyfiawnder yng Nghymru a chynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru – sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'i gynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru.
4 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
4.1 SL(5)740 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4.2 SL(5)742 – Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
5 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
5.1 SL(5)735 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, a gwneud cais am ymateb i’r pwynt gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd fod cynnig i ddirymu'r Rheoliadau wedi'i gyflwyno, ac y trefnwyd i'r ddadl gyfatebol gael ei chynnal ar 3 Mawrth 2021.
5.2 SL(5)741 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5.3 SL(5)743 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5.4 SL(5)736 – Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y byddai Llywodraeth Cymru yn gosod fersiwn newydd o'r Rheoliadau cyn bo hir.
6 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
6.1 SL(5)695 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
7 Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i'w hadrodd i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – ystyriwyd yn flaenorol
7.1 SL(5)727 – Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheoli Organig (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
8.2 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i’r Llywydd. Busnes y Senedd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
8.3 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Diwygiadau i Fil Masnach y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
8.4 Adroddiad Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
8.5 Gohebiaeth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Confensiwn Sewel
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
10 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y dystiolaeth
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiynau gyda'r Arglwydd Ganghellor a chyda Comisiwn y Gyfraith, a thrafododd faterion allweddol a fyddai'n cael eu codi yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor.
11 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
12 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.